Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-26

Colled drist ac atgofion melys

Heddiw y cefais glywed yn iawn am y tro cyntaf am angladd MCD ddoe. Mae hon wedi bod yn wythos afreal iawn. Dyna lle rydw i wedi bod yn fy ngwely yn y fflat ac yn tŷ uwch fy mhen mae'r teulu wedi profi galar dwys. Cefais gyfle i gael gair gydag ACD a DC ddechrau'r wythnos, a gair bach byr arall gyda GC ganol yr wythnos. Ond mae'r sefyllfa yn od iawn

Ni fedrais fynd i'r angladd oherwydd salwch ond dwi'n clywed fod PLlJ wedi cyfeirio at ofal MCD drosof fi a DML yn ei bregeth yn y gwasanaeth. Mae'n hawdd i angladdau fynd yn bentyrru geiriau, ond yr achos hwn rhaid dweud fod pob gair yn wir. Cymaint oedd ei gofal drosom fel y gwelwn hi'n aml fel ail fam! Gallwn adrodd cymaint o hanesion am ei gofal drosom, ond roeddwn i'n ei gweld hi ar ei mwyaf fel mam wrth sicrhau na fyddai'r un Dydd Mawrth Ynyd yn mynd heibio heb fod gen i a DML bancos i de. Roedd pethau'n wahanol eleni, nid oedd ei hiechyd yn caniatáu iddi wneud yn ôl yr arfer, ac o fewn ychydig ddiwrnodau i Ddydd Mawrth Ynyd roedd hi wedi marw gan ein gadael mewn tristwch ond ag atgofion melys iawn amdani.

Diolch i Dduw am gael profi cymaint o'i gariad a'i fendithion trwy MCD.

Gorffwys dyro, Grist, i'th weision gyda phawb o'th saint,
lle nid oes gofid mwy na phoen,
na gorthrymderau blin a gwae,
ond bywyd yn dragwyddol.