Kirsty wnaeth fy helpu i, a hynny'n gwrtais ac yn serchog, er unwaith eto yn Saesneg. Dwi wedi fy synnu ar yr ochor orau gyda'r gwasaneth ges i yn Specsavers o gofio eu bod nhw'n gwmni cyfalafol rhyngwladol.
Nawr dwi am ddangos fy sbecteli ichi. Y cyntaf yw fy sbectel 'Milton'. Dwi wedi ei dangos gyda'i choesau ar agor er mwyn ichi weld y lliw oren deniadol er dwi'n ofni nad oedd fy ffotograffiaeth yn gwneud chwarae teg â'r peth. Mae'r lensys yn rhai arbennig o denau ac mae 'na haenen warchodol drostynt.
Fy ail sbectel (mae gan Specsavers gynnig o ddwy am bris un tan ddiwedd Mawrth) yw 'Felce'. Dwi wedi tynnu llun hon gyda'i choesau wedi plygu. Dwi heb gael dim byd arbennig wedi'i wneud i'r lensys, felly ail bâr fydd Felce.



Yn ychwanegol at hyn i gyd cefais gopi o view magazine sef cylchgrawn Specsavers ar gyfer eu cwsmeriaid. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sbecteli neu lygaid neu synnwyr gweld, yna mae rhywbeth ichi yn y cylchgrawn hwn. Roedd yr erthygl 'Eyesight at forty' (tt.36-37) yn berthnasol iawn imi, ac roedd hi'n ddiddorol dilyn prawf llygaid a chael esboniad ar bob cam o gofio fy mod i wedi cael un ddechrau'r wythnos yn 'Step-by-step guide to your eye examination' (tt.29-34). Erthygl arall ddiddorol oedd un ar sut mae'r llygaid yn gweithio 'A visual guide to sight' (tt.26-28). Yn anffodus nid oes fersiwn electronig o'r cylchgrawn i'w gael, fe allwch gael copi o'ch siop Specsavers lleol, neu fe allwch fenthyg fy nghopi i.
Gyda llaw un peth arall diddorol ddysgais i o'r cylchgrawn yw fod pencadlys Specsavers yn La Villiaze, St. Andrew's, Guernsey. Dwi'n cymryd taw fordd o ddodjo treth yw hyn. Rheswm arall i deimlo'n euog am fynd atyn nhw.