Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-15

Chwilio am rywbeth arall yn lle Radio Cymru

Ydych chi'n dal i chwilio am rywbeth gwahanol i wrando arno yn lle Radio Cymru, jyst am newid? Dwi ddim yn awgrymu y dylech chi adael Radio Cymru am byth, ond mae'n neis gwrando ar rywbeth gwahanol weithiau. I mi un o ryfeddodau'r byd yw Tok Pisin, iaith Papiwa Gini Newydd, a nawr trwy'r rhyngrwyd mae'n bosib gwrando ar wasanaeth Tok Pisin Radio Awstralia. Diolch i'r rhyngrwyd!