Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-03

Bore diflas

Dwi ddim yn deall beth sy'n digwydd o gwbwl yng ngogledd Iwerddon. Ond pan godais i'r bore 'ma a chlywed fod PIRA wedi tynnu'n ôl y cynnig i ddiarfogi fe gefais ryw deimlad o wacter. Dwi'n gobeithio taw gêm negodi o ryw fath yw hyn. Yn ôl Liam Andrews ar Radio Cymru y bore 'ma nid oes bwriad i ailgychwyn rhyfela. Diolch am ddweud hynny, Liam.

Wedyn dyma droi at araith yr Arlywydd George W. Bush ar "gyflwr y genedl" a'r bygythiad i Syria ac Iran. Roedd 'na un datganiad a allai gynnig rhyw lygedyn o obaith.
"The goal of two democratic states, Israel and Palestine, living side by side in peace is within reach - and America will help them achieve that goal."
Wrth gwrs bydd hi'n rhaid i'r Palestiniaid sylweddoli taw dim ond gwladwriaeth ddemocrataidd a fydd yn dderbyniol i'r Taleithiau Unedig sydd iddyn nhw, ac nid gwladwriaeth ddemocrataidd a fydd yn ymateb i ddyheadau ei dinasyddion. Dyna realiti Team America World Police. Diolch byth fod rhywun yn gweld rheswm dros chwerthin.

Bydd bore 'fory yn well, gobeithio.