Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-25

Wythnos yn ddiweddarach

Mae bron i wythnos wedi mynd heibio ers imi ddechrau mynd yn dost. Erbyn hyn dwi'n teimlo fod y gwaethaf drosodd. Ond dwi ddim wedi bod mas o'r tŷ ers dydd Llun pan fues i mor ffôl â cheisio mynd i'r gwaith.

Mae cymaint wedi digwydd yn yr wythnos a aeth heibio fel ei bod hi'n anodd gwybod ble i ddechrau. Dwi'n gobeithio'n fawr iawn y bydd yfory'n dod â'r nerth i mi wneud rhywbeth gan fod yr holl negeseuon ac ymatebion dwi wedi'u derbyn ers fy salwch yn dangos fod 'na rywrai yn cael bywyd diflas derwydd o Aberystwyth yn od o ddiddorol!