
Ar ôl coginio'r cawl roedd yn rhaid ei fwyta a neithiwr cynhaliwyd noson o 'Gawl a hwyl' yng
nghanolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth. Cangen Aberystwyth a Phenparcau oedd wedi trefnu'r noson fel rhan o ddathlu Gŵyl Dewi a chan fod yr ŵyl honno wedi'i dathlu ar o leia tri diwrnod gwahanol yn barod man a man ychwanegu pedwerydd! Daeth nifer go dda ynghyd ac fe gafwyd noson ddigon difyr. Yr adloniant neu'r diddanwch am y noson oedd IapD yn canu'r ffidil ac EG yn canu'r sax a'r pibgorn.

Fe wnes i fwynhau'n fawr iawn ac fel un o'r trefnwyr roedd cael cystal hwyl ar y noson yn fonws. Er bod EG wedi gwneud tipyn o sblash gyda'i bibgorn rhyfeddol, mae'n rhaid taw uchafbwynt y noson oedd yr eira! Fe ddechreuodd fwrw eira wedi i'r noson gychwyn, ond erbyn rhyw 8.30pm roedd y plant wedi sylwi ar hynny, ac o fewn dim roedd nifer mas yn chwarae ynddo. Ar brydiau roedd hi'n anodd gwahaniaethu rhwng y plant a'r oedolion ar y stryd.
Ar y ffordd adref y noson honno o Ganolfan Merched y Wawr roedd y byd yn lle gwahanol iawn. Pobol allan ar y stryd yn siarad gyda'i gilydd a chyda dieithriaid. Pobl yn gwenu ac edrych yn hapus. Roeddwn i'n cario fy stwff yn ôl yn defnyddio un o fagiau
Lidl a dyma gwpl yn fy stopo ar y stryd a gofyn ble'r oedd y siop Lidl yn Aberystwyth!
Einion yn canu'r pibgornLawrlwytho'r ffeilRhagor o luniau o'r noson 'Cawl a hwyl'.Rhagor o luniau o'r eira.Tagiau Technorati:
Cerddoriaeth |
Eira |
Bwyta ac yfed |
Blog fideo.