Bues i ffwrdd o'r gwaith ar fy ngwyliau ddoe yn gwneud y peth hyn a'r peth arall. Un o'r gorchwylionpwysicaf oedd paratoi cawl ar gyfer y nos - noson o gawl a hwyl yng nghanolfan Merched y Wawr. Roeddwn i wedi addo gwneud cawl cig ar gyfer y noson, ac fe wnes i baratoi cawl chorizo gyda thatw a moron. Wrth ddefnyddio'r chorizo mae digon o halen a sbeis yn y cawl yn barod. Fe wnes i ychwanegu stoc llysiau wedi'i wneud yn defnyddio ciwbiau
Knorr a dwy ddeilen llawryf nad ydw i wedi'u dangos yn y lluniau.
Winwns
Chorizo
Moron
Tato
Tomatos
Rhagor o luniau coginio'r cawl.Tagiau Technorati:
Bwyd.