 I ddweud y gwir canu poblogaidd Cymraeg a'm gwnaeth i'n ymwybodol o fyd mawr canu poblogaidd Eingl-Americanaidd. Fel dilynwr selog i Edward H. Dafis roeddwn i'n clywed aelodau'r grŵp hwnnw yn sôn am y dylanwadau arnynt ac yn gwneud i grwt bach chwilfrydig o Fynachlog-ddu fod am wybod mwy. Heblaw am gylchgrawn Jackie fy chwaer yr unig ffynhonnell arall oedd Top of the pops. Yn ddiweddarach, dwi'n falch o gael dweud, fe ddechreuais i danysgrifio i'r New musical express.
I ddweud y gwir canu poblogaidd Cymraeg a'm gwnaeth i'n ymwybodol o fyd mawr canu poblogaidd Eingl-Americanaidd. Fel dilynwr selog i Edward H. Dafis roeddwn i'n clywed aelodau'r grŵp hwnnw yn sôn am y dylanwadau arnynt ac yn gwneud i grwt bach chwilfrydig o Fynachlog-ddu fod am wybod mwy. Heblaw am gylchgrawn Jackie fy chwaer yr unig ffynhonnell arall oedd Top of the pops. Yn ddiweddarach, dwi'n falch o gael dweud, fe ddechreuais i danysgrifio i'r New musical express.Fe ddaeth fy niddordeb mewn canu Eingl-Americanaidd i'w ben-llanw yn 1978 pan fues i yn y Reading Rock Festival y flwyddyn honno - ar ôl bod yn Eisteddfod Caerdydd, wrth gwrs. Roedd honno flwyddyn dda. Doedd yr ŵyl heb gyfyngu ei hun i grwpiau roc trwm ac felly fe gafwyd nifer o berfformwyr pync ar lwyfan. Dwi'n cofio The Jam, Status Quo, Lindisfarne, Albion Band (grŵp gwerin!) ac wrth gwrs, Patti Smith a oedd yn cael ei hadnabod fel 'prydydd pync' neu 'the poetess of punk'. On'd oedden nhw'n ddyddiau da!
Bryd hynny dim ond Top of the pops a'r Old Grey Whistle Test oedd cerddoriaeth roc gyfoes ar y teledu. Erbyn hyn mae 'na sianelau aneirif. Bydd yn drueni gweld Top of the pops yn diflannu, ond mae'r byd yn newid ac atgof fydd y rhaglen fel fy ieuenctid o fewn dim amser.
Dyma berfformiad gan y grŵp Queen ar raglen Top of the pops o 1974. Dychmygwch yr effaith gafodd teledu o'r fath ar deulu yn gwylio mewn tyddyn ar lethrau geirwon Preseli!
Tagiau Technorati: Cerddoriaeth | Atgofion | Hunaniaeth.

 
