
Gêm gyfartal 2-2 gafodd Lloegr gyda Sweden neithiwr. Felly mae Lloegr wedi mynd i'r rownd nesaf ar ben y grŵp ac yn dod wyneb yn wyneb â thîm Ecuador. Fe gafodd Michael Owen ei gario o'r cae wedi anaf. Roedd yn edrych mewn poen ofnadwy, roeddwn i'n gwingo mewn cydymdeimlad. Wedyn wrth i mi ystyried un neu ddau o bethau, fe sylweddolais petai Michael Owen heb heb droi ei gefn ar ei wlad ei hun er mwyn chwarae i Loegr, yna ni fuasai wedi dioddef yr anaf a gafodd. Wrth gwrs, er mwyn osogi'r anaf, ni fuasai'n chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2006 chwaith, ond pris bach fuasai hynny i'w dalu!
Tagiau Technorati:
Cwpan y Byd 2006 |
Lloegr |
Pel-droed.