Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-06-06

Gŵyl Fawr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Dwi wedi derbyn neges gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfer holl ddarllenwyr Blog Dogfael yn sôn am yr ŵyl fawr dros ddeddf iaith newydd sydd i'w chynnal ddydd Sadwrn. Dwi'n bwriadu bod yn yr ŵyl a'm gobaith i yw y bydd cymaint â phosib yn dod ynghyd ar gyfer yr achlysur. Byddai'n werth bod yno ond er mwyn cael cyfle i dalu teyrnged i Eileen Beasley. Mae'n anodd dychmygu pa mor arloesol oedd ei gweithred hi a'i gŵr yn y 1950au yn gofyn am gael bil y dreth yn Gymraeg a gwrthod talu nes ei dderbyn. Fel y mae pawb yn gwybod, mae gorfod gofyn am bethau yn Gymraeg yn rhan annatod o fywyd i siaradwyr Cymraeg o hyd. Dylai deddf iaith newydd newid y sefyllfa honno'n sylfaenol.
Gŵyl Fawr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Am 2.00 y prynhawn ddydd Sadwrn (Mehefin 10), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Gŵyl Fawr dros ddeddf iaith newydd yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig. Caiff ei drefnu gyda chefnogaeth nifer fawr o gyrff cenedlaethol, gan gynnwys Plaid Cymru, Merched y Wawr, UCAC, Cylch yr Iaith, Cymuned ac UMCA.

Dros y misoedd diwethaf gwelwyd consensws yn datblygu o blaid yr angen am ddeddf iaith newydd. Dyma gonsensws sy'n cwmpasu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, nifer o'r gwrthbleidiau ac hefyd unigolion amlwg megis John Elfed Jones, yr Arglwydd Gwilym Prys Davies a'r Athro Colin Williams. Eto i gyd, troi clust fyddar i'r alwad hon wnaeth Llywodraeth y Cynulliad dro ar ôl tro. Nid ydynt wedi bod yn barod i drafod sut allai deddfwriaeth bellach gyfrannu at ddatblygu sefyllfa'r Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf.

Serch hynny, ni ellir anwybyddu'r alwad hon am ddeddf iaith newydd. Mae'r penderfyniad diweddar i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn golygu bod yn rhaid edrych eto ar sefyllfa ddeddfwriaethol y Gymraeg. Nawr yw'r amser i bwyso! Felly, bydd yr ŵyl dros ddeddf iaith a gynhelir ddydd Sadwrn yn ddigwyddiad amserol a phwysig iawn.

Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan mae Ieuan Wyn Jones AC, arweinydd Plaid Cymru. Yn ogystal, darllennir negeseuon o gefnogaeth gan Eleanor Burnham AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Lisa Francis AC o'r Blaid Geidwadol. Ceir anerchiadau hefyd gan Gwyneth Morus Jones ar ran Merched y Wawr, Dilwyn Roberts-Young ar ran UCAC a Siwan Tomos ar ran UMCA.

Yn ogystal â'r anerchiadau hyn, ceir cyfraniadau hwyliog gan nifer o feirdd, bandiau ac artistiaid rap adnabyddus.

Ar ben hynny, agorir yr ŵyl gyda chyflwyniad arbennig i Eileen Beasley i anrhydeddu ei chyfraniad i fywyd Cymru. Caiff y cyflwyniad hwn ei arwain gan yr Athro Hywel Teifi Edwards.

Gobeithio y bydd modd i chi gefnogi'r digwyddiad pwysig hwn.

Cymdeithas yr Iaith
Tagiau Technorati: | .