Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-06-08

Cwpan y Byd - chwarae'n troi'n chwerw yn Aberystwyth

Slogan ar wal siop Bwise, AberystwythDwi'n gwybod nad yw'n beth aeddfed i'w wneud ac fe ddylai pobol fod goruwch y fath deimladau, ond mae presenoldeb cymaint o nwyddau a thrugareddau di-werth ar gyfer cefnogi tîm pêl-droed Lloegr yng Nghwpan y Byd 2006 yn cythruddo rhai pobol. Fe welais dystiolaeth o hyn gyda fy llygaid fy hun heddiw a hynny ar ffurf sloganau ar wal siop B'wise yn Aberystwyth. Wrth edrych i mewn i'r siop dwi'n gweld yn hawdd sut gallai rhywun oedd yn sensetif i'r fath hyn o beth deimlo'n ddigon crac i baentio'r sloganau. Mae'r siop yn gyforiog o'r tat pennaf er mwyn cefnogi'r tîm. Efallai taw'r peth rhyfeddaf yw baner enfawr sy'n sefyll reit yn y canol.

Deunydd Lloegr yn siop Bwise, AberystwythDwi wedi dechrau sylwi ar yr holl bethau sydd o gwmpas y lle erbyn hyn. Roedd 'na gar ym maes parcio y Llyfrgell Genedlaethol heddiw yn chwifio baner Lloegr ac ym mae parcio B'wise hefyd. Yn nhafarn yr Hen Orsaf roedden nhw'n cynnig cyfle ichi weld gemau Lloegr ac ar y bar yr oedd blwch o freichledau garddwn ar werth er mwyn "cefnogi Lloegr". Ar hyd a lled y dref mae 'na bethau tebyg i'w gweld a'u canfod. Dwi'n siŵr nad yw hyn yn gynllwyn er mwyn ceisio cymhathu Cymru i fod yn Lloegr, ond pam fod hyn yn digwydd? Dyna gwestiwn diddorol - ac os taw gwneud arian yw'r ateb mae'n profi unwaith eto nad cyfalafiaeth ryngwladol yw'r sustem sydd fwyaf cydnaws gyda dyfodol ein gwlad a'n hiaith.

Fel y gwnes i broffwydo ar Flog Dogfael ychydig ddiwrnodau yn ôl mae'r prif weinidog, Rhodri Morgan, wedi codi baner Lloegr dros Lywodraeth y Cynulliad. Wrth gwrs buasai gosodiad mor ddiamwys ac uniongyrchol â hynny yn rhy syml o lawer i Rhodri Morgan, roedd yn rhaid iddo gymhlethu pethau'n bellach drwy ddweud y buasai hefyd yn dilyn Brasil, ac na fyddai'n edrych ar lawer o Gwpan y Byd 'ta beth, ac os buasai cefnogwyr Lloegr yn gwneud pethau dwl yna fe fuasai'n cefnogi unrhyw dîm oedd yn chwarae yn erbyn Lloegr! A wnaeth unrhyw un ddeall beth oedd Rhodri Morgan yn ei ddweud? Dim rhyfedd fod Llywodraeth y Cynulliad yn llwyddo i wneud fel mynnon nhw, does neb yn deall yr atebion maen nhw'n eu rhoi fel eu bod nhw'n cael eu herio am unrhywbeth!

Gyda llaw wrth imi edrych ar y sloganau daeth cwpl heibio a mynegi eu barn hwy taw 'yobs' oedd yn gyfrifol. Mae 'na sawl diffiniad o 'yobs' a phob un yn oddrychol.

Rhagor o luniau o sloganau a that Lloegr yng Nghymru.

Tagiau Technorati: | | .