Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-25

Y falen a'r wisg Gymreig

Gwisgoedd Cymreig yn siop Woolworths, AberystwythDwi'n cael pwl arall o'r falen heddiw eto. Nid yw hynny'n beth rhyfedd a hithau'n dal i fod yn aeaf. Mae'r gaeaf yn medru cael effaith fel 'na arna i. Mae'r glanhau yn mynd yn ei flaen a dwi'n teimlo fy mod yn gwneud tipyn o gynnydd - dwi'n medru gweld llawr yr ystafell wely o'r diwedd! Ond yn sydyn dyma fi yn cael fy nharo bwl o iselder. A phan dwi'n cael pwl o'r falen dwi'n ofni nad fy ngofidiau personol sy'n pwyso drymaf arnaf, er bod digon os nad gormod o'r rheiny gyda fi, ond yn hytrach holl ddyfodol y genedl a'r Gymraeg a phopeth fel 'na. Felly, fe allwch ddychmygu pa mor ddu a pha mor fawr yw'r cwmwl pan fo'n galw heibio. Byddaf yn ceisio codi calonnnau cyfeillion sy'n dioddef felly drwy eu hatgoffa fod y Gymraeg ymhlith y 300 o ieithoedd sy'n fwyaf tebygol o oroesi. Hynny yw, cyn i'r Gymraeg farw bydd rhyw 3,700 o ieithioedd eraill wedi marw gyntaf. Nid yw hynny'n llawer o gysur pan ych chi yn y falen, ond mae'n werth ceisio defnyddio ystadegau i'ch cysuro gan nad wyf na'r cysylltiadau na'r modd i droi at gyffuriau i wneud hynny!

Ond heddiw doedd dim rhaid imi ddibynnu ar ystadegau dodji, fe gefais gysur yn siop Woolworth o bob man. Wrth y fynedfa roedd rhes hir o wisgoedd Cymreig ar werth yn barod ar gyfer Gŵyl Dewi. Dyma'r peth yn fy nharo ar unwaith - mae'n rhaid bod rhyw fath o ymdeimlad o Gymreictod yn dal i fodoli cyn bod cwmni fel Woolworths (un o gynrychiolwyr lleol cyfalafiaeth ryngwladol yn Aberystwyth) yn teimlo ei fod yn mynd i wneud arian o werthu'r wisg Gymreig. Dwi'n gwybod bod hynny'n swnio'n debyg iawn i gleddyf dau-finiog, ond mi roedd yn rhywbeth i geisio codi calon ar ddiwrnod oer a gwyntog a llwyd (ar brydiau) yn Abersytwyth.

Rhagor o luniau o'r gwisgoedd Cymreig yn siop Woolworths, Aberystwyth.

Tagiau Technorati: .