Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-23

Hel atgofion yn rhoi stop ar lanhau'r gwanwyn

Rhaid gweithio'n galed os am lwyddoNid yw hel atgofion yn weithred sy'n dwyn llawer o ffrwyth uniongyrchol fel rhan o lanhau Plas-yn-Dogfael. I ddweud y gwir mae'n ddigon o waith ynddo'i hun. Heddiw fe ddes i ar draws cwpwl o amlenni o ffotgraffau o haf 1990 pan fues i ar gwrs tair wythnos yn dysgu Basgeg yn Zestoa, Gipuzkoa ac fe anghofiais am y glanhau yn llwyr. Roedd y cwrs haf wedi'i drefnu gan fudiad gwirfoddol ar gyfer dysgu Basgeg i oedolion ac ar gyfer dysgu Basgwyr i ddarllen Basgeg, sef Alfabetatze Euskalduntze Koordinakundea, neu AEK.

Mae Zestoa yn dref o ryw 4,000 o drigolion gyda rhyw 90% ohonynt yn siarad Basgeg, a'r gweddill yn deall Basgeg i ryw raddau. Ar y stryd nid ydych yn clywed dim ond Basgeg a dyna pam fod AEK wedi dewis y lle ar gyfer cynnal cwrs haf. Begotxu Olaizola, cyfeilles o Wlad y Basg oedd yn byw yn Aberystwyth ar y pryd, a wnaeth yr holl drefniadau er mwyn caniatáu imi fynd ar y cwrs. Es i ddim ar ben fy hunan chwaith, fe gefais gwmni o Aberystwyth i fynd gyda fi ar y cwrs - PC. Roedd y cwrs yn digwydd trwy fis Medi ac yn ystod y mis hwnnw roedd Zestoa yn dathlu eu festa blynyddol - Gŵyl Genedigaeth Mair Mam ein Harglwydd - ar 8 Medi. Roedd yn brofiad gwych bod yn rhan o'r ŵyl honno.

Y ffordd iawn i dywallt seidr

Wrth edrych yn ôl ar y cyfan nawr mae'n ymddangos yn bell iawn yn ôl ac mae'r rhan fwyaf o'r Basgeg wnes i ddysgu wedi mynd yn anghof. Roedd yr athrawon yn defnyddio technegau addysgu a oedd yn rhai blaengar ar y pryd. Defnyddio cerddoriaeth Bach a Mozart fel cefndir dysgu, llawer o chwarae rôl ac o symud corfforol. A dim defnydd o Sbaeneg o gwbl, heblaw pan roedd popeth arall yn methu! Ac o fewn diwrnod neu ddau o fod ar y cwrs roedden ni'n cael ein hanfon mas i strydoedd Zestoa i siarad gyda Basgwyr go iawn ac i gynnal arolwg ar farn pobol tuag at ysmygu! Roedd hynny'n dipyn o her. Buasai'n wych cael cyfle i wneud yr holl beth eto.

Rhagor o luniau o'r cwrs Basgeg yn Zestoa, 1990.

Tagiau Technorati: | | | .