
Heddiw y clywais i'r newyddion syfrdanol bod y cylchgrawn
Smash hits yn cau. Wedi bron i ddeng mlynedd ar hugain o wasanaeth i ferched yn eu harddegau cynnar (yn bennaf) mae gwerthiant y cylchgrawn wedi cwympo i'r fath raddau nes bod y cwmni sy'n ei gyhoeddi wedi penderfynu rhoi'r ffidil yn y to. Pan ddechreuais i weithio mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ddechrau'r 1980au byddai pob merch o dan 15 a fyddai'n dod i mewn i'r llyfrgell yn cario copi, fel yr oedd pob merch gwerth ei halen yn cario
Jackie ddegawd yn gynt. Ond mae'r ddau wedi diflannu bellach! Dwi'n mynd yn hen!
Tagiau Technorati:
Henaint |
Cylchgronau.