Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-01

Nos Sadwrn diwethaf - cinio Plaid Cymru

Dogfael yn taro nodyn bach ysgafnachDwi ddim wedi bod mor nerfus ers tipyn o amser, a fy mai i oedd y cwbl. Roedd hi wedi bod yn wythnos wyllt ac ar ei diwedd yr oeddwn i wedi addo siarad yng nghinio Hen Galan Plaid Cymru yng ngogledd Ceredigion! Pam na fyddwn i'n dysgu gwneud 'na' rywbryd. Roeddwn i wedi bod wrthi drwy'r wythnos yn ceisio gorffen gwaith yr oeddwn wedi addo i'w wneud i esgboaeth Tyddewi, yn poeni am yr araith yn y cinio, ac yn myfyrio ar bwnc ar gyfer y bregeth nos Sul yng Nghanolfan Fethodistaidd S. Paul - alla i ddim dweud 'na', oherwydd dwi am gael fy ngharu a dim ond wrth gytuno i bob cais y bydd unrhyw obaith o gwbl y bydd pawb yn fy ngharu.

Yn y diwedd aeth popeth yn iawn; roedd pobl yn gardig iawn yn dweud eu bod wedi mwynhau'r hyn oedd gen i ddweud. Nid oedd yn debyg i araith wleidyddol; er efallai ar ôl imi ddweud ei bod yn llawn gwamalrwydd mae'n debyg y gallech chi ddweud ei bod yn debyg i rai o areithiau ein gwrthwynebwyr! Yr oedd yn rhaid imi wynebu heclo, ynte porthi, o du aelodau cangen Tal-y-bont. Ond fe lwyddais i gadw i fynd tan y diwedd! Mae'n rhyfedd pa mor fregus y mae'n bosib ichi deimlo gerbron torf yr ydych yn ei hystyried yn un gyfeillgar yn llawn cyfeillio a chydnabod!

Fe droes EHGJ yn ffotograffydd swyddogol am y noson ac felly mae gen i nifer fawr o ffotograffau o fi fy hunan yn areithio!

Rhagor o luniau o'r noson.

Tagiau Technorati: | | .