
Er na welais i'r rhaglen roedd cyfres ddrama newydd yn cychwyn ar BBC1 nos Sul diwethaf,
The virgin queen. Pwnc y gyfres yw bywyd y frenhines Elizabeth 1. Mwy o bropoganda Britaidd dwi'n ofni. Sawl ffilm neu gyfres sydd wedi bod yn y sinema ar y teledu am Elizabeth 1, yn ddrama ac yn ddogfen, ers i Glenda Jackson serennu yn
Elizabeth R yn 1971? Dyn a ŵr! Dyna ichi
Elizabeth (1998)
gyda Cate Blanchet,
Elizabeth 1 (2005) gyda Helen Mirren,
The Royal Diaries: Elizabeth I - Red Rose of the House of Tudor (2000) gyda Tamara Hope, a chyfres Dr David Starkey,
Elizabeth 1 (2003)
. Ac yn yr holl amser 'na sawl cyfres neu ddrama sydd wedi bod am rai o arwyr cenedlaethol Cymru - J O Roberts fel
Owain Glyndŵr a beth arall? Dim rhyfedd fod cymaint o anwybodaeth am ein hanes yn gyffredinol a bod pawb yn gwybod mwy am hanes Lloegr. Nid yw'n llawer o help chwaith bod cynifer o athrawon hanes ein gwlad yn anwybyddu ein hanes ein hunain!
Tagiau Technorati:
Teledu |
Hanes |
Cymreictod.