Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-24

Rhyfel yr archifau


Protest yn Barcelona ynglŷn â
dychwelyd y papurau yn 2004
Mae'n rhyfedd beth sydd yn digwydd yn y byd ond oherwydd fod y BBC a chyfryngau Llundain-Brydeinig yn ei anwybyddu nid ydym yn gwybod dim adano. Dim ond wrth chwilio am wybodaeth am ystatud newydd Catalonia y cefais hyd i wybodaeth am archifau Catalonia. Yn ddigon eironig mae rhyfel 'cartref' newydd wedi ail-godi yn Sbaen, ond y tro yma yn y llysoedd wrth i Generalitat de Catalunya a dinas Salamanca ddadlau ynglŷn â 500 o focsys yn llawn papurau sy'n rhan o Archif y Rhyfel Cartref. Yn dilyn buddugoliaeth ffasgwyr Franco yn y rhyfel fe gipiwyd y papurau, sy'n bennaf yn ymwneud â llywodraeth neu Generalitat Catalonia yn ystod y 1930au, gan lwyodraeth Franco er mwyn bod yn rhan o archif fawr o bapurau yn ymwneud â'r rhyfel cartref yn Salamanca. Bwriad y llywodraeth oedd defnyddio'r wybodaeth yn y archif er mwyn erlyn seiri rhyddion a chomiwnyddion - prif elynion Sbaen a Christnogaeth Gatholig yn ôl Franco!


Y cyntaf o'r bocsys
ar eu ffordd i Gatalonia
Wedi buddugoliaeth y Sosialwyr yn etholiad cyffredinol 2004 mae gwladwriaeth Sbaen wedi dechrau dod i delerau â'r hyn ddigwyddodd yn y rhyfel cartref ac yn dechrau agor rhai o'r drysau sydd wedi bod yng nghau am dros drigain mlynedd. Un o'r pethau a wnaethpwyd oedd awdurdodi dychwelyd yr archifau Catalanaidd o Salamanca i Gatalonia. Doedd Salamanca ddim yn hapus o gwbl. Gwrthodwyd cais i adael i faniau Adran Ddiwylliant Generalitat Catalunya i fynd yn agos i hen ran Salamanca a bu'n rhaid symud yr holl focsys â llaw ar drolis. Cam cyntaf y daeth yn ôl oedd mynd i Madrid i gael eu gwirio gan swyddogion yno, ac maent yn dal i fod yno ar ôl i Salamanca fynd i'r llysoedd i geisio eu hatal rhag mynd i Barcelona. Mae'r uchel lys wrthi'n trafod yr achos yr wythnos hon. Mae Archifdy Cenedlaethol Catalonia yn barod i'w croesawu ac roedden nhw wedi bwriadu cynnal arddangosfa yn agor yfory. Bydd yn rhaid i hynny aros tan bod y llys wedi penderfynu beth sydd i ddigywdd iddyn nhw.


Yn llys yn gwrando ar yr achos ddoe

Pan fydd archifau Cymru yn cael eu dychwelyd o'r Archifdy Gwladol i Lyfrgell ac Archifdy Cenedlaethol Cymru; tybed a bydd y faniau yn cael mynd yno neu'n gorfod parcio ar y stryd tu fas? Wrth gwrs mae'n debyg na fydd archifau Cymru byth yn dod yn ôl a bydd dsgwyl i ni wastad fynd i Archifdy Cenedlaethol Lloegr a Chymru i'w gweld.

Rhagor o newyddion am yr archifau.

Tagiau Technorati: | | .