Protest yn Salamanca cyn i'r archifau fynd yn ôlArwyddair yr ymgyrch i ddychwelyd y papurau i Gatalonia yw
"Volem tots els papers" "Rydym ni am y papurau i gyd" ac wedi'r holl ddisgwyl mae'n edrych yn debyg bod hynny'n mynd i ddigwydd. Heddiw dyfarnodd Uchel Lys Sbaen y caiff 517 o focsys yn llawn papurau eu dychwelyd i Gatalonia ar ôl bod yn Archifdy Salamanca ers 1940. Yn Archifdy Dinas Salamanca y mae cartref
Archif y Rhyfel Cartref ac maen nhw wedi bod yn cynnal ymgyrch i gadw'r papurau yno o dan y pennawd pryfoclyd ac amwys "Por la unidad", sef 'o blaid undod' - undod yr archif, ond mae 'na awgrym am undod y wladwriaeth ymhlyg yn y gosodiad hefyd. Ond mae'n rhy hwyr bellach gyda'r Pwyllgor sydd wedi bod yn pwyso am ddychwelyd y papurau yn cynnal noson i ddathlu nos yfory.
Rhagor o wybodaeth am yr archifau.Tagiau Technorati:
Archifau |
Catalonia |
Cenedlaetholdeb.