Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-29

Bron â cholli fy nhymer ... dros ffôn symudol

Mae'r cyfan yn ymwneud â fy ffôn symudol. Daeth y cyfan i benllanw ddydd Sadwrn er bod y broblem wedi bod yn mud-losgi ers mis a mwy, ond erbyn y penwythnos 'ma roedd yn rhaid imi wneud rhywbeth amdani. Dwi wedi bod â chytundeb gyda chwmni ffonau symudol O2 ers imi fod â ffôn bron iawn, a dwi heb gael problem... tan ddiwedd 2005.

Fy ffôn symudolRoeddwn i'n talu'n fisol am y ffôn ar fy ngherdyn debyd ond fis Tachwedd fe fes i gerdyn newydd gyda rhif newydd. Roedd yn rhaid imi newid y manylion gyda'r cwmni. Fe lwyddais i ddatrys pethau dros dro heb ffys fis Rhagfyr. Ond fis Ionawr dyma fynd ati i ail-drefnu pethau'n iawn. Felly cyn bod y bil yn barod dyma ffonio i osod dull talu newydd i fyny a chlirio gyda'r bil oedd i ddod yn ddiweddarach yn y mis cyn i'r debyd uniongyrchol ddechrau. Rhois i'r holl fanylion a chredais y buasai popeth yn iawn. Camgymeriad. Ymhen wythnos roedd fy ffôn wedi'i gloi i alwadau allanol. Ffonio a cheisio datrys pethau. Popeth yn ymddangos yn iawn. Ymhen tri diwrnod dyma fy ffôn yn cael ei gloi eto. Ffonio a thrafod a phopeth yn ymddangos yn iawn. O fewn wythnos roedd y ffôn wedi'i gloi eto a dyma finnau'n ffonio a chael addewid bod popeth yn iawn. Nos Wener diwethaf dyma'r ffôn yn cael ei gloi unwaith eto eto a finnau'n ffonio, ond y tro hwn yn cael dim llawer o gydymdeimlad dim ond gofyn am brawf i fy mod wedi talu. Bues i'n chwilio trwy fy natgyniadau banc gan nad oeddwn am geisio datrys talu ddwywaith, ond doedd dim sôn am daliad wedi gadael fy nghyfri, er bod O2 wedi cael y manylion i gyd. Yn y diwedd fe wnes i dalu fore Sadwrn gyda'r addewid y buasai'r ffôn yn cael ei ddatgloi o fewn yr awr (roeddwn i wedi ffonio am 8.05am er mwyn sicrhau defnydd o'r ffôn yn ystod y dydd). Awr yn ddiweddarach dyma drio'r ffôn - dal i fod ar glo. Ac felly y bu hi ar yr awr pob awr tan 5.00pm pan ffoniais i O2 unwaith eto. Cael trafodaeth hir gyda'r gweithiwr ar ochr arall y ffôn ac addewid o ddatgloi a wireddwy rhyw 6.30pm.

Siop Carphone Warehouse, AberystwythRoeddwn i wedi cael llond bola a'r hyn yr hoffen i fod wedi ei wneud fuasai gweiddi ar rywun, ond nid y bobl ar ochr arall y ffôn sy'n gyfrifiol fel arfer. Felly dyma ymatal a phenderfynu fy mod yn mynd i fynd â fy nghyfri ffôn symudol i rywle arall. Ar hyn o bryd dwi ar gytundeb £19 y mis sy'n rhoi 50 munud am ddim a 300 neges destun y mis imi. Digon ar y cyfan i mi heblaw am adegau prysur fel eisteddfod neu wyliau neu etholiadau. Felly i ffwrdd â fi i rai o'r siopau yn Aberystwyth. Cefais wasanaeth da yn y siop Carphone Warehouse yn y Stryd Fawr (yn Gymraeg gan Carwen, diolch!). Esboniais fy mhroblem wrth Carwen yn y siop ac fe edrychodd ar y cyfrifiadur ac fe holodd rai cwestiynau am fy nefnydd o'r ffôn - a oeddwn i'n mynd dros yr amser a'r negeseuon testun am ddim, &c. Yn y diwedd fe ddywedodd nad oedd dim gwell ganddi gynnig imi na'r hyn oedd gen i ar hyn o bry, heblaw awgrymu efallai y buasai 'talu a mynd' yn well na chytundeb gan fy mod yn defnyddio cyn lleied o'r ffôn mewn gwirionedd. Roedd hynny'n meddwl talu ar y cychwyn ond heb dâl cyson y cytundeb. Yn anffodus roedd y bargeinion gorau oedd ganddi i gynnig o ran ffônau 'talu a mynd' trendi a chyda-hi a;r rhai chytundeb i gyd yn dod o gwmni O2; felly os oeddwn i am wneud protest yn eu herbyn buasai'n costio'n fwy i fi nag i O2 yn y pendraw. Cyfalafiaeth yn drech na chyfiawnder unwaith eto.

Yr wyf yn dal i fod wrthi'n cynllwynio'r ffordd o ddianc oddi wrth grafangau O2.

Tagiau Technorati: | | .