Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-23

Enwau plant

Bob blwyddyn tua'r amser yma mae 'r ONS, neu'r Office of National Statistics, yn cyhoeddi beth oedd yr enwau mwyaf poblogaidd ar y plant a gafodd eu cofrestru yn ystod y 12 mis blaenorol. A bob blwyddyn does dim llawer o sôn am enwau Cymraeg yn yr 20 uchaf. Oherwydd taw ffigurau ar gyfer Cymru a Lloegr yw'r rhain mae'n debyg petai pob plentyn yng Nghymru yn cael yr un enw na fyddai'n gwneud dim gwahaniaeth i'r enwau uchaf. Ond yn is i lawr y rhestr mae 'na enwau y gellid eu gweld fel rhai Cymraeg a Chymreig.

Dyma'r enwau Cymraeg/Cymreig ar gyfer bechgyn y sylwais i arnyn nhw yn y 100 uchaf ar gyfer 2005:
24. Dylan
36. Owen
59. Rhys
79. Morgan

Dyma'r enwau Cymraeg/Cymreig ar gyfer merched y sylwais i arnyn nhw yn y 100 uchaf ar gyfer 2005:
12. Megan
94. Morgan!

Fe geisiais i chwilio am restr o enwau a gofrestrwyd yng Nghymru ar wefan y Swyddfa, ond methais yn lân â dod o hyd i restr o'r fath. Hefyd mae'r wefan yn dangos pa mor anghyson yw'r holl ddefnydd o'r gair "cenedlaethol". Enw'r swyddfa yw'r Office of National Statistics, enw'r wefan ei hun yw National Statistics, ond yn achos enwau plant dim ond gwybodaeth am Gymru a Lloegr a geir. Nid oes sôn am enwau o'r Alban na gogledd Iwerddon.

Mae enwau yn bethau od iawn. Rydych chi'n dueddol o gysylltu enwau gyda phobl yr ydych chi'n eu hadnabod gyda'r enw hwnnw a phenderfynu a ydych yn ei hoffi ar sail hynny. Petawn i'n gorfod dewis enwau i blant dyma beth fusen i'n eu dewis. Ar gyfer bechgyn: Illtud, Brynach, Aeddan, Gomer, neu Aneirin. Ar gyfer merched: Ffraid, Gwenfrewi, Magan, Melangell, neu Ragnell.

Tagiau Technorati: .