Felly dyma fy rhodd Nadolig i bawb sy'n dilyn Blog Dogfael. Dwi wedi canu fy nhrefniadau fy hun o rai o garolau traddodiadol Cymru yn ogystal â charolau rhyngwladol. Dwi'n gobeithio'n fawr iawn y byddwch yn mwynhau'r fersiwn Iseldireg o Adeste fiedeles.
Nadolig Llawen felly ichi i gyd!
"Credaf fod gwir ysbryd y Nadolig yn cael ei gyfleu gan y perfformiadau syml a naïf hyn ar albwm Nadolig Dogfael. Nid oes yma urhyw soffistigedigrwydd gwastraffllyd; gadewir i'r geiriau lefaru drostynt eu hunain. Nid yw llais Dogfael wedi'i 'sbwylio' gan hyfforddiant clasurol. O'r herwydd mae'r naws werinol gref sydd i'w lais yn gweddu'r carolau traddodiadol i'r dim." Dwtse Gramoffôn ****
1. O deued pob Cristion Ffeil MP3 | 6. Ganol gaeaf noethlwm Ffeil MP3 |
2 Tua Bethlem dref Ffeil MP3 | 7. Ar gyfer heddiw'r bore Ffeil MP3 |
3. Wele gwawriodd ddydd i'w gofio Ffeil MP3 | 8. Dawel nos Ffeil MP3 |
4. Clywch lu'r nef Ffeil MP3 | 9. O dawel ddinas Bethlehem Ffeil MP3 |
5. O tyred di Emaniwel Ffeil MP3 | 10. Wij komen tezamen (Adeste fideles) Ffeil MP3 |
Cofiwch bod croeso ichi lwytho i lawr y ffeiliau MP3 i'w chwarae ar eich iPod neu beiriant MP3 arall.
Os nad ydych chi am y drafferth o orfod dewis pob carol fe allwch wrando arnynt un ar ôl y llall fan hyn.
Albwm Nadolig Dogfael ... y gorau yn y byd erioed 1
Tagiau Technorati: Carolau | Nadolig | Blog llafar.