Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-30

Cwmsymlog

CwmsymlogY lle cyntaf inni ymweld ag e oedd Cwmsymlog, lle'r oedd RO wedi bod yn ymweld ag ef ar y trip ddydd Sadwrn. Cawsom wybod cymaint o waith oedd wedi bod yn yr ardal reit 'nôl hyd at amser Elizabeth I, ond yn ei anterth yn ystod y ddeunawfed ganrif. O gwmpas y lle ym mhobman roedd 'na olion tomenydd o wastraff - sgil-gynnyrch mwyngloddio ar hyd y canrifoedd. Erbyn hyn mae'r olion yma yn derbyn sylw fel rhan o brosiect Ysbryd y Mwynwyr Cyngor Sir Ceredigion - a arianwyd fel rhan o ariannu Amcan 1 yn y sir.

Siafft, CwmsymlogUn o'r pethau diddorol i RO ddangos inni oedd hen siafft agored. Roedd ganddo hanes difyr iawn am y siafft. Roedd rhywun wedi ceisio gwneud cais i adeiladu tŷ yn y fan, ac yn arwynebol roedd popeth yn edrych yn iawn. Ond wedi cael cyngor gan arbenigwr yn y diwydiant mwyngloddio a ddywedodd y gallai siafftau fod yn unrhywle yn yr ardal fe wrthodwyd y caniatâd. Ymhen amser fe 'ymddangosodd' y siafft dros nos. Gwers dda iawn o'r angen i fod yn ofalus a gwyliadwrus yn yr ardal hon. Ar ôl clywed y stori doeddwn i ddim yn rhy siŵr a ddylen ni adael y llwybr neu'r ffyrdd o gwbl!

Rhagor o luniau o Gwmsymlog.

Tagiau Technorati: | .