Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-07-18

Ffarwél Edward Heath

Felly mae Edward Heath wedi marw a'r gwleidyddion oedd yn gwmni cyson imi trwy fy mhlentyndod yn diflannu o un i un - Harold Wilson, Gwynfor Evans, Jim Callaghan, a nawr Ted Heath. Fy mhrif gof amdano yw nid fel gwleidydd o gwbl, ond fel gwrthrych dynwarediadau Mike Yarwood. Wrth gwrs roedd Yarwood yn cadw'n glir o wleidyddiaeth ac felly nid ei bolisïau fyddai'n cael eu dychanu yn y sioe, ond ei berthynas â Harold Wilson a'i ddiddordeb mewn hwylio. Mae'n amlwg ei fod yn wleidydd galluog dros ben i lwyddo i ddod yn arweinydd y Blaid Dorïaid o gefndir dosbarth gweithiol - pam roedd rhywun o gefndir dosbarth gweithiol yn y blaid Dorïaidd yn y lle cyntaf dwi ddim yn gwybod. Pan roedd e'n brif weinidog roeddwn yn ei gasáu yn wleidyddol, ond fe lwyddodd i gael ei drawsffurfio oherwydd yr hon a'i dilynodd gyda'i pholisïau asgell-dde radicalaidd, gan wneud iddo edrych yn rhesymol. Gyda dyfodiad Tony Blair fe'i trawsnewidiwyd unwaith eto i fod yn rhywun oedd yn sefyll rywfaint o'r chwith i'r canol! Yng nghasgliad cartwnau Illingworth yn y Llyfrgell Genedlaethol mae 'na lawer iawn o ddelweddau o Heath, efallai y mwyaf trawiadol yw delwedd ohono fel teigr yn Hydref 1967 lle mae wedi llwyddo i ddelio gyda'r feirniaid yn y gynhadledd flynyddol yn gymharol ddi drafferth.