Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-06

Wedi cyrraedd

Adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd
Wrth adael Aberystwyth y bore 'ma gyda DJP roedd hi'n bwrw'n drwm. Pa fath o wyliau fydd hyn oedd fy nghwestiwn wrth deithio trwy Llandysul yn y glaw. Ond erbyn Caerfyrddin roedd y glaw wedi peidio. Aros ym Mhont Abraham i gael rhywbeth i'w yfed ac roedd y gwynt yn chwythu i sychu popeth.

Mae'n rhaid fod Pont Abraham yn unigryw ymhlith adnoddau ar holl rwydwaith traffyrdd Prydain, oherwydd wrth gerdded mewn i'r siop pa fideo oedd yn chwarae ond Sam Tân yn Gymraeg. Wrth y stondin CDs doedd dim sôn am y grwpiau pob modern neu hyd yn oed Tony Christie yn canu (Is this the way to) Amarillo, ond hytrach cor meibion yn bloeddio 'O Iesu mawr, rho d'anian di'. Rhyfeddol.

Wrth fynd 'nôl i'r car pwy welson ni ond yr Esgob SD a'i wraig CD. Mae CD yn dod o Fynachlog-ddu yn wreiddiol ac yn perthyn trwy briodas i fy mam, ac mae SD yn dod o blwyf Pont-faen yng Nghwm Gwaun. Doeddwn i ddim wedi gweld y ddau ers iddo ymddeol a symud i fyw i Aberteifi. Ond doedd dim amser i'w dreulio yn clebran roedd gan DJP gyfarfod yng Nghaerdydd am 11.00am, felly ymlaen â ni nes cyrraedd y Bae - DJP i chwilio am le i barcio ar gyfer Canolfan y Mileniwm, a finnau chwilio am fflat lle dwi'n aros. Y ddau ohonom yn llwyddo heb unrhyw broblem.

Dwi newydd setlo mewn ac yn barod i gychwyn ar fy antur yn y ddinas fawr ddrwg. Dwi'n addo y byddaf yn tynnu digonedd o luniau i gofnodi fy ymweliad â'n prif ddinas.