Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-06

Mynd i ganol y 'mwg'

Gorsaf drenau Bae CaerdyddWedi dod o hyd i'r lle roeddwn i'n aros dwi'n ofni nad oeddwn am aros o gwmpas y Bae. Er nad wyf yn adnabod Caerdydd yn dda, dyw'r Bae ddim yn Gaerdydd i mi. Mae'r holl awyrgylch yn wahanol iawn i'r hyn dylai dinas fod. Dim pobl, dim torfeydd, dim ond adeiladau mawr amhersonol. 'Nôl â fi mewn i ganol y ddinas i grwydro Heol y Frenhines a lawr i'r Aes.

Roeddwn i'n medru cymryd y trên sy'n dod lawr i'r Bae o Heol y Frenhines. Pedwar trên yr awr - gwych. Roedd yr haul yn tywynnu er ei bod yn dal i fod yn wyntog.

Cefais syndod yn y siop gyntaf i mi fynd mewn iddi a chlywed dau gwpwl yn siarad Cymraeg. Roeddwn yn barod i ddathlu fod pethau wedi newid yn llwyr, ond wedyn chlywais i yr un gair o Gymraeg drwy'r prynhawn. Jyst cerdded o gwmpas roeddwn wrth fy mod yn gweld a chlywed yr holl bethau oedd yn digwydd o'm cwmpas. Dwi'n gwybod fod rhai wedi synnu i glywed fy mod yn mynd ar fy ngwyliau i Gaerdydd, ond mae'r lle mor ddieithr i mi bellach fel fod y daith yn rhyw ddarganfod o'r newydd beth sydd 'ma.

Siop Spar gyferbyn â gorsaf Heol y Frenhines, CaerdyddNid oes gennyf obsesiwn gyda siopau Spar, ond mae'n siwr o fod yn cynnig rhyw fath o gysur i rai sydd wedi teithio'n bell o bedwar ban Ewrop taw'r siop gyntaf sydd yn eich wynebu wrth ddod mas o orsaf Heol y Frenhines yw siop Spar. Efallai taw dyna beth sydd fwyaf trist am grwydro Caerdydd, fel dinasoedd eraill y Deyrnas Gyfunol, yw pa mor unffurf ydynt. Mae'n dda gweld rhai pethau adnabyddus, ond pan fo pob siop yr un siop mae'n ddiflas. Mae Caerdydd wedi mynd yr un modd - y tro hwn y llefydd coffi cyffredin wnaeth fy nharo. Dylai fod rhyw ffordd o stopio'r fath hyn o beth! Torri ar draws y farchnad rydd unwaith eto. Dwi'n swnio'n fwy comiwnyddol bob dydd, ond dwi ddim yn rhy siwr â fusen i'n gartrefol iawn yn Havana chwaith.