
Ond mae un peth sydd wedi bod yn mynd o gwmpas yn fy mhen sef beth fyddai enw'r brifysgol neu'r coleg newydd. Mae nifer wedi bod yn pledio achos William Salesbury. Ac mae hynny'n gwbl iawn - yr wythnos hon rwyf newydd orffen darllen unwaith eto moliant R. Brinley Jones iddo yn y gyfres Writers of Wales. Ond yn ddiweddar, ar ôl blynyddoedd o chwilio, fe ges gopi arall o olygiad G. J. Williams o Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert (Caerdydd, 1939). Roedd gen i gopi yn y coleg, ond fe aeth ar goll, a dwi wedi bod yn edrych am un newydd ers oesoedd. Wedi ei gael dwi wedi bod yn pori yn rhagymadrodd G. J. Williams ac wedi dod i'r casgliad y dylai enw Gruffydd Robert gael ei gysylltu mewn rhyw ffordd gyda choleg neu brifysgol Gymraeg.
Gyda llaw yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth cynhelir ffair lyfrau ddydd Sadwrn 23 Ebrill rhwng 10.00am a 4.00pm - cyfle efallai i brynu'r copi yna o ramadeg Gruffydd Robert unwaith eto!