Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-16

Croeso 'nôl

Fe welais SM ar y stryd ddoe yn Aberystwyth. Mae e newydd ddychwelyd o ganolbarth Affrica lle mae wedi bod gyda'i waith i Tearfund. Ond hyd yn oed o fan 'ny roedd e'n medru anfon negeseuon e-bost. Bu ar ymweliad ag Uganda a Rwanda. Roedd yn Rwanda ar adeg y cofio am ddioddefwyr yr hil-laddiad yn y wlad, unarddeg mlynedd yn ôl bellach. Fe wnaeth sôn yn benodol am yr amgueddfa sydd wedi'i sefydlu yno i gofio'r digwyddiad - Amgueddfa Hil-laddiad Gisozi. Dwi'n siŵr y bydd gan SM lawer i'w adrodd dros yr wythnosau nesaf am ei ymweliad â'r gwledydd hyn.