Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-26

Ysgol Preseli

Mae'n rhyfedd beth ych chi'n dod o hyd iddo wrth frigo'r we. Dwi wedi bod i gyfeiriad Ysgol Preseli sawl gwaith, ond bob tro roedd 'na arwydd mawr yn dweud fod y safle yn cael ei ddatblygu. Heddiw dwi'n gweld fod yr adeiladu bron รข bod ar ben gyda'r safle ar gael. Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr ysgol erbyn hyn gan fod merch fy chwaer yn fyfyriwr yno erbyn hyn. Ysgol wahanol oedd yr ysgol yr es i iddi - nid ysgol ddwyieithog - ond yn yr un adeiladau.

Dim ond un peth sy'n fy siomi i yn fawr am yr ysgol o hyd a hynny yw'r ffaith nad yw Mathemateg na gwyddoniaeth yn cael ei ddysgu yn Gymraeg. Dwi'n cywilyddio yn ddyddiol oherwydd nad oes gen i'r eirfa i darfod Mathemateg yn Gymraeg. Roedd yr athro math gefais i pan oeddwn yn Ysgol Preseli, RE, yn fodel o athro amyneddgar a gofalus i esbonio popeth. Roeddwn i'n ddiawl o ddisgybl oedd wedi cymryd yn erbyn y pwnc o'r cychwyn cyntaf ac yn gwneud gwaith Mr E yn anodd iawn. Trafod fy anwybodaeth o Fathemateg fusen i, ond dwi am fedru gwneud hynny yn Gymraeg!