Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-26

Boddi mewn môr o bobol

Rwyf newydd fod mas yn y dref yn gwneud negeseuon. Roedd y lle dan ei sang o ymwelwyr a siopwyr. Prin bod lle ichi gerdded ar y pafin, ac roedd y siopau yn orlawn bob un. Roeddwn i wedi mynd mas i bostio CD at fy ffrind JH sy'n bennaeth Ysgol Clydau, Tegryn. Rhywbeth yr oeddwn wedi'i addo i'w wneud iddi ers misoedd ar fisoedd. Wel, o'r diwedd mae wedi mynd. Yna ymlaen i siop Paperway i wneud ffotogopïau o'r emynau a pheth litwrgi ar gyfer y gwasanaeth nos yfory yn Eglwys S. Mair, Aberystwyth. Fi sydd yn arwain y gwasanaeth ac yn pregethu. Nid wyf yn disgwyl rhyw dorf fawr iawn, bydd y mwyafrif wedi bod yn cymuno am 8am neu am 10am; ond fe fydd y gweddill ffyddlon yno.

Un peth oedd yn fy nharo i am hyn i gyd oedd fod pobol yn dod ar ei gwyliau neu i ymweld ag Aberystwyth ac yn mynd i ddefnyddio y Siop Spar sy'n agor 24/7. Wel dwi ddim am fod yn feirniadol ond mae hynny'n ymddangos braidd yn rhyfedd i mi. Efallai taw fy mwriad i wrth fynd i Wlad Belg yw treulio peth amser mewn archfarchnadoedd yn rhyfeddu at y labeli Iseldireg, ond dwi ddim yn credu fod trigolion y Birmingham a'r Black Country â'r un diddordeb â finnau mewn arwyddiaeth dwyieithog i dreulio eu hamser yn Spar.

Er diddordeb mae 'na wefan Spar ar gyfer Fflandrys mewn Iseldireg. Ac os wyf fi wedi deall yn iawn y siop agosaf yn yr ardal Iseldireg at Rollegem, Kortrijk, lle'r ydym yn mynd i aros, yw un yn Ieper. Ieper yw'r dref a adnabyddid fel Ypres yn ystod yr Eerste Wereldoorlog, neu'r Rhyfel Byd Cyntaf.) Dyna'r siop sydd yn y darlun. Dwi'n cymryd taw dwy wilber sydd tu fas i'r siop. Mae'r siop ar agor Llun - Sadwrn 8.00-12.00 14.00-19.00 heblaw ddydd Sul pan mae ar agor 8.30-12 14.00-19.00 a dydd Mercher pan mae ar gau. Gobeithio'n fawr y bydd hi'n bosib inni ymweld â'r siop pan fyddwn yn Ieper.

Siop Spar, St-Eloois-WinkelMae'n bosib taw siop Sint-Eloois-Winkel sydd agosaf wrth gwrs. Dyna'r siop a welir yn y darlun ar y chwith. Mae'r siop hon yn agor Llun 14.00-18.30, Mawrth-Sadwrn 8.00-12.00 14.00-18.30, Sul 8.00-12.00. Mae Sint-Eloois-Winkel yn bentref mawr sydd ynghyd â Rollegem-Kapelle a Ledegem ei hun yn ffurfio cymuned Ledegem, sydd i'r gogledd o Kortrijk. Mae gan Ledegem boblogaeth o ryw 9,500.