Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-01

Heft de boer een leeuw in de tuin?

"Oes gan y ffermwr lew yn yr ardd?"

Dyna'r yw'r cwestiwn ichi mewn Iseldireg. Mae'n amlwg i mi fod 'na lew yn rhywle, ac mae'n debyg taw yng ngardd y ffermwr y mae'n cuddio.

Mae dechrau (neu'n hytrach ail-ddechrau) dysgu iaith newydd yn medru bod yn sbort, a does dim yn fwy o sbort na'r brawddegau y mae'r awduron yn gorfod eu creu oherwydd prinder geirfa a gramadeg eu myfyrwyr. Jane Fenoulhet sy'n dysgu Iseldireg i mi ar hyn o bryd. Mae hi ar staff Coleg Prifysgol Llundain a hi yw awdur Hugo in 3 months: Dutch a gyhoeddir gan Dorling Kindersley rydw i'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

[Gyda llaw os ydych chi'n dilyn y cyswllt fe welwch chi lun o Jane. On'd yw hi'n debyg i Marian Delyth, y ffotograffydd?]