
Beth yw'ch syniad chi o wibdaith ar brynhawn dydd Sul? Castell, traeth, eglwys neu fynydd? Ddydd Sul diwethaf fe wnes i ac RO a DML ailddiffinio 'gwibdaith' i gynnwys taith o gwmpas ystad ddiwydiannol. Ar ôl cinio hyfryd yn nghfarn Ty'n-llidiart, Capel Bangor, fe wnaethon ni alw heibio i Ystad Ddiwydiannol Glanyrafon ar ein ffordd 'nôl i'r dref. Nid oedd tywysyddion ar gael yno i ddangos prif atyniadau'r lle i ni felly roedd yn rhaid inni helpu ein hunain. Fe welson ni
ganolfan ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru,
Rachel's Dairy, canolfan gwaredu sbwriel
Cyngor Sir Ceredigion, gweithdy cwmni theatr
Arad Goch, a llu o ffatrïoedd, swyddfeydd, siopau a busnesau eraill. Fe ddylai Adran Dwristiaeth Llywodraeth y Cynulliad hybu'r fath hyn o dwristiaeth; dim ond ychydig fisoedd yn ôl fe fues i weld Amlosgfa Aberystwyth. Pan ddaw'r cyfle buasai'n dda ymweld â llefydd a sefydliadau eraill sy'n ein gwasanaethu ond yr ydym yn cerdded heibio heb feddwl edrych arnyn nhw.
Rhagor o luniau o Ystad Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr.Tagiau Technorati:
Teithio.