Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-06-05

Adre'n ôl

Parti Llefaru Ysgol Gyfun y PreseliWedi holl drawma teithio ar drenau Arriva Cymru a theimlo holl bwysau'r wladwriaeth Brydeinig (via Network Rail) yn dwyn fy hawliau sifil oddi arnaf, roedd dychwelyd i Aberystwyth ac i gwmni cyfeillion yn wych. Aethon ni mas am baned yn yr Orendy. Ac yna ymlaen i'r Light of Asia ar gyfer pryd o fwyd. Wnes i ddim aros yn hir gan fy mod am frysio yn ôl i'r fflat i weld uchafbwyntiau Eisteddfod yr Urdd. Roeddwn i'n credu fod y rhaglen yn cychwyn am 8.30pm fel pob noson arall. Wrth gwrs, roeddwn i wedi anghofio am y rygbi - y Dreigiau yn colli i Overmach Parma ac yn methu â chwarae yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf! Ond ble'r oedd Eisteddfod yr Urdd? Roeddwn i'n gandryll ac barod i ffonio llinell gwylwyr S4C yn y fan a'r lle i gwyno. Ar ôl teithio gyda Trenau Arriva Cymru dyna'r peth olaf roeddech am ei glywed - rygbi yn lle eisteddfod. Fe dawelodd fy nhymer yn raddol bach.

Bu'n rhaid imi aros am awr i weld yr uchafbwyntiau. Pan ddaethon nhw ar y teledu yr oeddent yn werth eu gweld gyda pharti llefaru o Ysgol Preseli yn cipio'r wobr gyntaf.

Lluniau o'r cyfeillion yn yr Orendy.

Tagiau Technorati: .