Wrth gwrs, roedd mwy i hanes Mark Oaten na hynny, os yw'r hyn yr ydym yn ei ddarllen yn y papurau yn wir - roedd yn briod gyda phlant ac yn gwneud llawer o hynny yn gyhoeddus yn ôl y News of the world, ond er imi edrych ac edrych ar ei wefan, ychydig o sôn oedd yno amdanynt, nid oedd yn eu clochdar o gwbl fel roedd y papur yn ei ddweud. Mae'n gywilydd imi orfod cyfaddef fy mod wedi darllen y stori yn y papur, a rhaid imi ddweud nad ydyw i'n credu iddynt wneud achos argyhoeddiadol iawn dros yr hyn y maen nhw wedi'i wneud. Rhaid gofyn hefyd a fuasai'r ymateb i'r ffordd yr oedd yn dewis byw ei fywyd yr un peth petai'r butain yn fenyw yn hytrach nac yn ddyn. Dwi'n cymryd ei fod ef ei hun yn teimlo ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le cyn iddo dynnu'n ôl o'r frwydr am yr ymgeisyddiaeth a'r fainc flaen - twyllo ei wraig, dweud celwydd wrth ei deulu? Os felly buasai degau ar ddegau o aelodau seneddol yn gorfod ildio eu lle i bobol eraill - pawb o John Major i John Redwood.
Mae'r ffaith ein bod yn mynnu perffeithrwydd a moesoldeb dilychwin gan ein gwleidyddion tra'n byw bywydau amherffaith ac o amwysedd moesol ein hunain yn ffenomen ddiddorol. Mae'n cadarnhau ein tuedd gyffredin tuag at ragrith yn ei amryfal ffurfiau a'r angen i symud unrhyw gyfrifoldeb a'i roi ar eraill. Nid yw'n bosib i neb fod yn gwbl agored ac onest am bob peth, buasai hynny'n credu mwy o broblemau byth. Ond pan fo rhagrith yn amlwg ac yn sylfaenol mae pethau'n wahanol. Yn y stori yn y papur newydd mae 'na gyfeiriad at y ffaith i Mark Oaten gondemnio barnwr y bu'n rhaid iddo ymddiswyddo ar ôl talu am wasanaeth puteiniaid gwrywaidd. Os felly mae bosib fod 'na achos iddo ymddiswyddo fel y gwnaeth e, ond gan fod hynny yn cael cyn lleied o le yn y News of the world mae'n amlwg taw yn y pen draw dewisiadau rhywiol Mark Oaten yw'r targed iddyn nhw; trist iawn.
Tagiau Technorati: Gwleidyddiaeth | Rhyw | Democratiaid Rhyddfrydol.