
Dwi wedi cael anrheg Nadolig wrth fy modd sef llun o siop Superspar ym Merlin. Pan fo dyn yn teimlo'n unig ac yn ddiwerth, pan fo'n teimlo nad oes neb yn ei garu - a dwi wedi bod yn teimlo felly'n ddiweddar ar brydiau - mae sylweddoli wedyn fod rhywun arall yn mynd o gwmpas strydoedd dinas estron yn tynnu lluniau o siopau bwyd Spar yn unswydd er ei fwyn ac er mwyn codi ei galon, yn gwneud iddo deimlo ei bod hi werth byw wedi'r cwbl.

I mi mae pob Spar yn dweud stori, ac i fi dyma'r Spar yn un o ardaloedd 'amheus' Berlin lle bydd
Angela Merkel yn galw ar ôl diwrnod caled yn y
Bundestag. Dyw pethau ddim wedi bod yn mynd yn rhy dda ac felly mae'n chwilio am ychydig o fwyd cysur -
selsig o ryw fath, bierschinken efallai, a charton o sudd oren newydd ei wasgu,
breze twym, gyda choffi i fynd. Efallai fod ganddi ychydig lungopïo i'w wneud ar gyfer cyfarfod o'i chabinet drannoeth. Fe all hi wneud popeth yn y Superspar hwn.
Diolch GJ.
Rhagor o luniau o Siopau Spar.Tagiau Technorati:
Berlin |
Spar |
Hunan werth.