
Wel, dwi wedi cael y profiad mae pawb sy'n bawb yn Aberystwyth yn siarad amdano, sef teithio yng nghar newydd EHGJ a SH. Efallai fod "car" yn air rhy bitw ar gyfer y peth. Roedd SH yn garedig iawn wedi cynnig lifft i mi lawr i Aberaeron i gyfarfod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Er nad wyf i erioed wedi bod mewn
tanc Centurion, wrth deithio o Aberystwyth i Aberaeron roeddwn yn teimlo fel un o'r comanders yn arwain y fyddin i gipio Baghdad - ond nid Saddam Hussein oedd y dyn drwg, ond holl elynion y Gymraeg yn y sir, ac nid Baghdad oedd ein nod ond Ceredigion gyfan. Petai pob Cymro a Chymraes gwerth eu halen yn buddsoddi mewn peiriant o'r fath fe allen ni drefnu ein hunain yn finteoedd i gipio ein sir yn ôl; a hynny mewn cyfforddusrwydd awyredig gyda tho sy'n agor!