Taith o ryw 7km yw hi o Ieper i Boezinge, ac wrth droi oddi ar y ffordd fawr i gyfeiriad Pilkem a Langemark mae'n llawer tawelach. Prin bod car yn gyrru heibio inni yn wahanol i'r llif cyson ar y briffordd. Roedd y gwynt yn chwythu'n gryf wrth inni geisio chwilio am Fynwent Artillery Wood. Fe aethom heibio i'r troad y tro cyntaf a chael ein hunain yn Pilkem. Cafodd Hedd Wyn ei ladd mewn ymosodiad ar Gefn Pilkem, ond wrth edrych o gwmpas ar y gwastadedd o'n cwmpas doedd dim sôn am gefnen o unrhyw fath yn un man. Dyma droi 'nôl yn Pilkem i fynd i edrych unwaith eto am Fynwent Artillery Wood, a'r tro hwn dyma ei chael.
Mynwent Artillery Wood
Gyferbyn â'r fynedfa mae dau dŷ cymharol newydd yn sefyll. Mae'n fy synnu i eu bod wedi cael caniatâd ar eu cyfer, ond efallai fod awdurdod cynllunio West-Vlaanderen wedi derbyn peth cyngor gan Geredigion!
Eto i gyd roedd 'na arwyddocâd i'r fan ac i'r hyn oedd yng nghlwm wrth y man. Cefais fy llenwi ag emosiwn wrth ystyried beth oedd y sefyllfa yn ei gynrychioli neu'n ei feddwl - ymerodraeth a glwedydd bach, y llywodraethwyr a'r werin, cyfoethog a thlawd, rhyddid a gormes, rhyfel a heddwch. Roeddwn yn barod i wylo, ac fe ddylwn i fod wedi bod yn fwy agored am y teimladau. Ond eu cadw i fi fy hun a wnes i. Roedd DML yn fwy parod i oedi uwch y bedd a darllen peth o waith bardd. Roedd y gwynt yn chwythu drwy'r fynwent yn oer, a bu hynny'n drech na Dr HW a aeth yn ôl i'r car gysgodi. Ond aros ac aros wnaeth y gweddill ohonom. Er i'r fynwent edrych yn debyg i bob un arall, roedd presenoldeb bedd Hedd Wyn yma yn gwneud y lle yn wahanol. Roedd hi'n werth dod i'r lle ac aros yno am dipyn.
Rhagor o luniau o Fynwent Artillery Wood a bedd Hedd Wyn.