Ydy bwyty Tŵr y Cloc wedi cau? Dyna'r cwestiwn mawr. Roedd pawb yn credu ei fod yn agor ar y Sul ar Fai 1, ond roedd 'na awgrym y byddai'n agor am un Sul arall cyn cau a chael ei drawsnewid yn salon gwallt a phrydferthwch. Dwi'n credu imi ffarwelio â'r ddoe, ac mae chwilio am ffordd arall o ddiwallu fy anghenion bwytaol y byddaf y Sul nesaf.

Roeddwn i wedi meddwl y buaswn yn pregethu yng Nghapel Seion yn y bore, ond fe ganslwyd y cyhoeddiad prgethu hwnnw ac felly fe fues i yng ngwasanaeth y foreol weddi yn Eglwys y Santes Fair yn y bore - lle'r oeddwn yn arwain y gweddïau - cyn cyfarfod am goffi wedyn yn Nhŵr y Cloc.
Daeth LMJ i'r Tŵr gan feddwl fel y gweddill ohonom fod y lle yn cau - roedd yn rhaid nodi'r peth, meddai hi. Roeddwn i'n falch o'i gweld gan fy mod wedi dod ar draws llyfr yr oeddwn yn meddwl y buasai yn ei fwynhau, sef
At war with Waugh gan William Deeds. Mae'n llyfr yn adrodd hanes cefndir nofel enwog
Evelyn Waugh, Scoop yr oedd LMJ wedi dweud osoedd yn ôl cymaint yr oedd wedi mwynhau ei darllen.
Erbyn hyn dwi wedi casglu
nifer o luniau o fwyty Tŵr y Cloc er mwyn inni fedru cofio sut beth oedd hi i gael hamddena yno.