Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-06

Cerfluniau

Un o nodweddion adnabyddus Caerdydd yw'r cerflun o Aneurin Bevan yn Heol y Frenhines. Mae'n waith y creflunydd o'r Rhondda, Robert Thomas (1926-1999). Ar hyn o bryd mae nifer o'i weithiau yn cael eu harddangos ar yd Heol y Frenhines yn y ddinas, a nifer ohonynt yn weithiau llawer mwy trawiadol a phwerus nag Aneurin Bevan. Fe wnes i fwynhau dau yn arbennig. Ffigyrau arwrol y glowr a'r fam - dau deip nodweddiadol o'r Gymru lle fagwyd yr artist.

Y glowr

'Glowr' gan Robert Thomas, Caerdydd

'Glowr' gan Robert Thomas, Caerdydd

Y fam
Mewn gwirionedd 'Mam a mab' yw teitl y cerflun, ac wrth gwrs dyna lle mae'r Fam Gymreig ar ei mwyaf pwerus, yn ei pherthynas รข'i mab. Mae'r darn hyn yn arbennig iawn. Dwi ddim yn deall beth yw ystyr y manylion yn y cerflun yn iawn.

'Mam a mab' gan Robert Thomas, Caerdydd

'Mam a mab' gan Robert Thomas, Caerdydd

Manylyn o 'Mam a mab' gan Robert Thomas, Caerdy