Mae'r llun hyfryd o Padrig yn gyrru pob neidr o dir Iwerddon yn dod oddi ar wefan canolfan The Saint Patrich Centre. Canolfan i ymwelwyr yw hon wedi'i lleoli yn Downpatrick yn dathlu traddodiad Padrig yn Iwerddon.
Wrth gwrs yng Nghymru cafodd Padrig ei eni, ac roedd yn dipyn o ffrindiau gyda rhai saint Cymru os ydym i gredu'r hanesion. Dwi'n rhyw obeithio petai wedi dychwelyd i Gymru ar ôl ei genhadaeth lwyddiannus yn Iwerddon y byddai wedi mynd gam ymhellach na dim ond taflu'r gwiberod mas, ac wedi delio gyda chorrynod unwaith ac am byth hefyd. Ydw, mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod yn un sy'n ofni pryfed cop ond dwi'n dechrau delio gyda'r peth erbyn hyn.