Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-03-20

Haul unwaith eto

Cofeb ryfel AberystwythMae'n anodd credu sut mae'r tywydd yn newid. Pythefnos yn ôl roedd hi'n eira yn Aberystwyth; wythnos yn ôl roedd hi'n llwyd a diflas; a ddoe roedd yr haul yn disgleirio dros bawb a phopeth gan drawsnewid y lle yn llwyr. Roedd torfeydd mas yn cerdded ar y prom a'r castell yn denu'r teuluoedd. Roedd maes chwarae'r castell yn orlawn a phobol ym mhob man. Pob man, heblaw lawr wrth y gofeb ryfel. Roedd y gwynt yn dal i chwythu'n oer fan'no er gwaethaf yr haul, ac ychydig oedd y rhai oedd wedi mentro cyn belled â hynny. Ond o'r fan honno roedd 'na olygfa wych. Roedd hi'n ddiwrnod i fod yn fyw ddoe yn Aberystwyth.


Lawrlwytho'r ffeil

Rhagor o luniau o Aberystwyth yn yr haul.

Rhagor o luniau o'r gofeb ryfel yn Aberystwyth.

Tagiau Technorati: | .