
Dwi newydd fod yn gwylio'r teledu. Fe wnes i wylio'r ddrama ar BBC2,
Riot at the Rite. Drama yn seiliedig ar y paratoadau ar gyfer perfformiad cyntaf o'r bale Le sacre du printemps a gyfarwyddwyd gan
Wacław Niżyński i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr
Igor Stravinsky a'r cythrwfl a achoswyd gan y perfformiad hwnnw. Y peth sy fwyaf anodd i'w ddeall erbyn hyn yw sut y gallai cerddoriaeth a dawns achosi'r fath ymateb. Yn yr un modd dwi'n methu'n deg â deall sut yr oedd
Shostakovich yntau yn ennyn y fath atgasedd ymhlith arweinwyr yr Undeb Sofeitaidd oherwydd ei gerddoriaeth.


Gellir gwrando ar raglen radio a ddarlledwyd National Public Radio yn Washington DC yn y gyfres
Milestones of the millenium ar y rhyngrwyd yn adrodd hanes perfformiad cyntaf La sacre du printemps. Mae'n werth gwneud. Dyma beth mae'r broliant yn ei ddweud:
"Hear PT host Lisa Simeone and commentator Thomas Kelly discuss the scandalous premiere of Stravinsky’s great score and how it changed music forever." Yn y rhaglen radio maen nhw'n defnyddio'r fersiwn o
The rite of Spring
a recordiwyd gan The Clevland Orchestra.
Drama gwerth ei gweld. Cerddoriaeth gwerth gwrando arni.
Tagiau Technorati:
Teledu |
Cerddoriaeth.