Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-03-04

Cawl a hwyl (2)

IapD ac EG yn creu cerddoriaethAr ôl coginio'r cawl roedd yn rhaid ei fwyta a neithiwr cynhaliwyd noson o 'Gawl a hwyl' yng nghanolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth. Cangen Aberystwyth a Phenparcau oedd wedi trefnu'r noson fel rhan o ddathlu Gŵyl Dewi a chan fod yr ŵyl honno wedi'i dathlu ar o leia tri diwrnod gwahanol yn barod man a man ychwanegu pedwerydd! Daeth nifer go dda ynghyd ac fe gafwyd noson ddigon difyr. Yr adloniant neu'r diddanwch am y noson oedd IapD yn canu'r ffidil ac EG yn canu'r sax a'r pibgorn.

Chwarae yn yr eiraFe wnes i fwynhau'n fawr iawn ac fel un o'r trefnwyr roedd cael cystal hwyl ar y noson yn fonws. Er bod EG wedi gwneud tipyn o sblash gyda'i bibgorn rhyfeddol, mae'n rhaid taw uchafbwynt y noson oedd yr eira! Fe ddechreuodd fwrw eira wedi i'r noson gychwyn, ond erbyn rhyw 8.30pm roedd y plant wedi sylwi ar hynny, ac o fewn dim roedd nifer mas yn chwarae ynddo. Ar brydiau roedd hi'n anodd gwahaniaethu rhwng y plant a'r oedolion ar y stryd.

Ar y ffordd adref y noson honno o Ganolfan Merched y Wawr roedd y byd yn lle gwahanol iawn. Pobol allan ar y stryd yn siarad gyda'i gilydd a chyda dieithriaid. Pobl yn gwenu ac edrych yn hapus. Roeddwn i'n cario fy stwff yn ôl yn defnyddio un o fagiau Lidl a dyma gwpl yn fy stopo ar y stryd a gofyn ble'r oedd y siop Lidl yn Aberystwyth!

Einion yn canu'r pibgorn

Lawrlwytho'r ffeil

Rhagor o luniau o'r noson 'Cawl a hwyl'.

Rhagor o luniau o'r eira.

Tagiau Technorati: | | | .