Mae pob papur newydd yn cael ei gyhoeddi un ai i wneud arian neu i hyrwyddo rhyw safbwynt penodol, neu'r ddau. Dwi ddim yn gwybod beth yn gywir oedd y tu ôl i benderfyniad y papur Jyllands-posten i wneud yr hyn wnaethon nhw. Ond fe glywais i'r golygydd, Flemming Rose, yn trafod beth oedd wedi digwydd ar raglen ar BBC News 24, sef HARDtalk (nid yw'r cyfweliad hwn ar y wefan eto). Yn ôl y golygydd roedd y cyfan yn arbrawf mewn rhyddid yn dilyn methiant awdur o Ddenmarc i gael arlunydd oedd yn fodlon darlunio cyfrol yr oedd wedi'i hysgrifennu ar fywyd y Proffwyd. Fe wnaeth y papur ofyn i ryw 25 o arlunwyr am syniadau ac fe gafwyd ymateb gan 12. Y gweddill wedi dod o hyd i ryw esgus neu'i gilydd dros beidio â gwneud. Dyna sut roedd yn gosod y peth ac mae'n rhaid imi gyfaddef iddo fy argyhoeddi i ei fod wedi gwneud hyn am resymau oedd yn gyffredinol yn eithaf clodwiw.
gan Will Rise.
Ar y dechrau roeddwn i wedi cael fy nhemtio i ymuno yn y brotest dros ryddid wrth gyhoeddi rhai o'r cartwnau ar Flog Dogfael. Ond... roedd gweld y cwrt gyda'r plac ofnadwy 'na yn ormod i mi. Dyma fi'n dewis defnyddio fy rhyddid i beidio â chyhoeddi gan ddadlau na ddylwn i fynd allan o fy ffordd i gythruddo na chynhyrfu neb dim ond er mwyn gwneud hynny. Ond pan fo pobol ar strydoedd Llundain yn gofyn am dorri pen rhai sydd wedi gwneud rhywbeth tebyg i'r hyn oeddech chi'n ei fwriadu mae'n hwb mawr ichi ail-ystyrred y sefyllfa. Dwi'n credu'n gryf iawn yn y syniad o ryddid i gyhoeddi beth bynnag sydd yn gyfreithiol, ond dwi'n ofni fy mod yn gachgi wrth edrych o gwmpas a chwilio am rywun arall sy'n fodlon gwneud hynny.
Dwi ddim yn Fwslim, felly dwi ddim yn teimlo o dan unrhyw ddyletswydd i ddilyn rheolau Islam ynglŷn â sut y dylwn ymagweddu tuag at y Proffwydd. Nid wyf chwaith yn un o ddilynwr Richard Dawkins ac nid wyf yn teimlo o dan urnhyw ddyletswydd i ddilyn rheolau'r rhai sy'n dilyn Richard Dawkins ynglŷn â sut y dylwn ymagweddu tuag ato. Yr wyf yn Gristion a dwi'n dilyn rheolau Cristnogaeth am sut yr wyf yn ymagweddu tuag Iesu Grist, ond dwi ddim yn disgwyl i bobl eraill wneud nad ydyn nhw'n Gristnogion. Nid wyf yn credu y dylwn fynd allan o fy ffordd i sarhau Richard Dawkins na'r Proffwydd - ond dwi'n mynnu fy hawl i ddweud beth dwi'n meddwl am y ddau ohonyn nhw, ac fe allai hynny fod ar ffurf cartŵn, fe allai fod ar ffurf sylwadau gwatwarus (iawn), neu fe allai fod ar ffurf cyfrol drwchus athronyddol. Credaf fod hawl gan Richard Dawkins a'i ddilynwyr a'r Proffwydd a'r rhai sy'n dilyn crefydd Islam fod â'r hawl i wneud yr un peth amdanaf fi, fy nghyd-Gristnogon, a hyd yn oed y Gwaredwr - ond mae'n rhaid inni gyd wneud hynny o fewn y gyfraith ac felly mae annog lladd yn syrthio y tu allan i'r rhyddid hwnnw.
Ond ar ôl dweud hyn'na i gyd mae llysgenhadaethau Denmarc yn llosgi yn Beirut a Damascus ac mae'r bygythiadau yn erbyn Flemming Rose, pobl Denmarc a'r gorllewin yn dal i gael eu taflu o gwmpas. Ni ellir amddiffyn hyn o gwbl yn enw rhyddid, ond efallai ei bod hi'n rhaid inni fyw gyda hyn. Fel y mae 'na Gristnogion yn y Taleithiau Unedig sy'n credu ei bod hi'n iawn i fomio dydd y farn i fodolaeth, a bod esgobion pabyddol Sbaen yn dal i fod ag ychydig o gydymdeimlad gyda'r hen ffordd o wneud ac yn gweld ymdrechion Catalunya a Gwlad y Basg am fwy o ryddid yn fygythiad i ddiwylliant Cristnogol y gorllewin, mae rhai dilynwyr Islam yn coleddu syniadau rhyfedd iawn ar sut i ymateb i gabledd. Rhaid cofio nad oedd holl ddilynwyr Islam yn Llundain allan ar y stryd yn protestio ddydd Gwener diwethaf. Nid yw pob Mwslim yn gweld popeth yr un peth ac yn bendant nid ydynt ymateb yr un peth chwaith er bod 'na bobl sydd am inni gredu hynny hefyd, ond dwi'n mynnu nad ydwyf yn myndi fynd yn sownd yn fagl honno. A dyna'r unig gasgliad dwi wedi dod iddo ar hyn o bryd ar ôl yr holl gleber wast 'ma.
Rhagor o luniau gan Will Rise o brotest ddydd Gwener.
Tagiau Technorati: Crefydd | Sensoriaeth | Rhyddid.