Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-17

Glanhau'r gwanwyn yn parhau

Mae glanhau'r gwanwyn yn parhau ym Mhlas-yn-Dogfael. Ond dwi'n ofni fy mod i wedi cyrraedd y darn anodd pan fo'r lle yn edrych yn fwy anniben nag yr oedd pan wnes i ddechrau ar yr holl waith. Wel, dyna'r sefyllfa yn fy ystafell wely. Bues i mor ffôl a gwneud peth o lanhau yn y gegin hefyd ac felly mae dau le 'ar eu hanner' bellach. Er mwyn ceisio fy annog ymlaen byddaf wastad yn disgrifio'r adeg hon fel 'gweithio tuag at daclusrwydd' a dyna beth dwi'n ei wneud. Bydd hi'n wythnos eto dwi'n credu cyn bydd yr ystafell wely wedi cyrraedd y lle'r hoffwn i fod. Un broblem arall sy'n codi yw dod ar draws gwrthrychau sy'n gwneud imi hel atgofion, rhai ohonynt yn gwneud imi fod yn eithaf emosiynol. Nid yw bod yn eich dagrau ar ganol glanhau yn syniad da, ond weithiau mae 'na bethau yn dod i'r golwg sy'n gofyn am ddagrau. Ni allwch fynd trwy fywyd heb brofi chwerwder a siom a thristwch, ac mae cael eich atgoffa o'r sefyllfaoedd hynny yn dal i gyffwrdd â rhywun - yn bendant maen nhw'n fy nghyffwrdd i. Pwy fuasai'n meddwl y gallai glanhau'r gwanwyn fod yn gymaint o daith i mewn i fi fy hun. Rhaid cofio, fodd bynnag, fy mod yn agor bocsys nad ydw i wedi edrych arnyn nhw ers symud i Blas-yn-Dogfael naw mlynedd a mwy yn ôl. Efallai y ffodd i osgoi hyn i gyd yw taflu popeth ar unwaith!

Tagiau Technorati: | .