Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-01-18

Pethau'n newid

Fel un a gafodd ei fagu ar RTÉ Radio 1 mae hynt a helynt Cumann Lúthchleas Gael, neu'r Gaelic Athletic Association (GAA), wedi bod o ddiddordeb mawr i mi. Dwi cofio clywed rhaglen ddogfen unwaith oedd yn dilyn hanes chwaraewr pêl-droed Gwyddelig disglair oedd wedi bod mor ffôl â chwarae un gêm o bêl-droed 'estron' ac wedi ei wahardd o'r gêm Wyddelig am weddill ei oes. Dyna brofi unwaith ac am byth yr enillion a'r colledion o gymysgu gwleidyddiaeth a chwaraeon; dyma'r prawf hefyd ei bod yn amhosib peidio â chymysgu gwleidyddiaeth a chwaraeon. Hynny sy'n gyfrifol fod y bwriad i chwarae rygbi a phêl-droed 'estron' ym mhrif stadiwm y GAA, Pairc an Chrocaigh, neu Croke Park, yn newyddion yn Iwerddon. Stadiwm Pairc an Chrocaigh yw'r mwyaf a'r mwyaf modern yn Iwerddon; mae'r lle wedi derbyn miliynau o ewros mewn grantiau cyhoeddus i'w addasu ac roedd yr undeb rygbi a'r gymdeithas bêl-droed am chwarae gemau yno tra bod Pairc Lansdún yn cael ei adnewyddu. Dim byd rhyfedd yn hynny... peidiwch â bod yn rhy siŵr o hynny.

Sefydlwyd y GAA yn yr 1880au fel cyfrwng arall i'r Gwyddelod fynegi eu cenedligrwydd, y tro yma trwy eu chwaraeon traddodiadol: pêl-droed Gwyddelig a hyrlio. Noddwr y gymdeithas oedd Archesgob Thomas Croke o Caiseal Mumhan (Cashel) ac ar ei ôl yntau yr enwyd Pairc an Chrocaigh. Ef hefyd oedd prif hrwyddwr rheol enwog y GAA yn gwahardd aelodau'r gymdeithas rhag chwarae "foreign and fantastic games" a oedd yn cynnwys pêl-droed a rygbi. Yn ystod rhyfel annibyniaeth Iwerddon digwyddodd un o nifer o erchyllterau'r rhyfel yn Pairc an Chrocaigh ei hun pan ddefnyddiwyd awyren fechan i saethu i mewn i'r dorf yn ystod gêm rhwng Dulyn a Tiobraid Árann - lladdwyd dau chwaraewr a 12 yn y dorf gan gynnwys plant 10 a 11 mlwyddoed. Dyma'r diwrnod a elwir yn Bloody Sunday, 1920.

Yng ngogledd Iwerddon oherwydd cysylltiad y GAA â chenedlaetholdeb fe ddaeth clybiau'r gymdeithas i'w gweld fel tiriogaeth y gelyn ac mae hanes nifer ohonynt yn sefyll i fyny'n arwrol i fygythiadau o du'r awdurdodau'r wladwriaethig unoliaethol. Arweiniodd hyn at wrthod chwarae ag unrhyw dîm oedd yn cynrychioli'r wladwriaeth Brydeinig mewn unrhyw fodd, gan gynnwys aelodau'r RUC. Newidiodd hynny yn 2002 pan chwaraeodd tîm pêl-droed Gwyddelig Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn erbyn tîm An Garda Síochána. Mae pethau'n newid yn araf.

Wrth gwrs, petai'r GAA heb ddod i gytundeb gyda'r awdurdodau pêl-droed a rygbi mae'n debyg y buasai rhai o'r gemau wedi cael eu chwarae yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ac mewn canolfannau eraill dramor. Buasai hynny wedi bod yn embaras i bawb ac felly roedd y llywodraeth yn gweithio'n galed i helpu i berswadio GAA beth oedd orau er mwyn cadw enw da Iwerddon.

[I rywun sydd am ddeall ychydig o arwyddocad hyn i gyd mae erthygl Mike Cronin o Brifysgol De Montfort Caer-lŷr, Ignoring postcolonialism : the Gaelic Athletic Association and the language of colony yn ddiddorol ac yn werth ei darllen. Mae'r erthygl yn hen bellach, fe'i cyhoeddwyd yn 1999, ac yn feirniadol, ond mae'n llwyddo i gyfleu arwyddocad gwleidyddol a diwylliannol y GAA.]

Tagiau Technorati: .