
Wrth i wir neges y Nadolig ddiflannu mewn môr o fasnach wedi'i hybu a'i greu gan gyfalafiaeth ryngwladol, mae'n dda gweld fod rhai pobol yn defnyddio cyfalafiaeth ryngwladol fel cyfrwng i newid hynny. Cyfaill imi,
traed mawr, wnaeth dynnu fy sylw at genhadaeth y Parchedig Brendan Powell Smith sy'n defnyddio
Lego fel cyfrwng i ailadrodd straeon o'r Beibl er mwyn dod â'i neges i sylw pobl unwaith eto. Mae'n galw ei genhadaeth yn
The Brick Testament. Mae 'na ryw awgrym fod ei dafod ychydig yn ei foch: er enghraifft mae'n rhybuddio ei ddarllenwyr fod hanes y geni yn cynnwys elfennau o borcyndod (golygfa y baban yn cael ei eni) a thrais (lladd y diniweidiaid).
Darllenwch hanes Geni Iesu yn y Brick Testament.Tagiau Technorati:
Nadolig |
Lego.