Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-07

Cyrraedd Llundain ... jyst!

Dwi'n dechrau credu fod gan y sustem drafnidiaeth gyhoeddus yn y Deyrnas Gyfunol rhywbeth yn fy erbyn i. Yn bendant mae Arriva Trains Wales a Virgin Trains yn cynllwynio ar y cyd yn aml iawn i rwystro fy nhaith. Heddiw roeddwn i ar fy ffordd i Lundain unwaith eto. Cyrraedd gorsaf Aberystwyth mewn digon o bryd i brynu tocyn, &c. Wrth brynu tocyn dyma'r newyddion dychrynllyd - does dim trên y bore 'ma rhaid mynd ar y bws i Fachynlleth! Nid y dechrau gorau i daith. Ond roedd y goets yn ddigon cyfforddus - yn fwy cyfforddus na'r coetsys trenau o bell ffordd! - ac roeddem ni ym Machynlleth i gwrdd â'r trên i Firmingham mewn digon o amser, er fy mod i wedi amau hynny ar brydiau.

Dyma gyrraedd Birmingham jyst mewn amser i weld trên Llundain yn gadael o'r platfform nesaf. Dim digon o amser i gyrraedd y platfform hwnnw chwaith. Ac wrth ddisgwyl am y trên nesaf i Lundain i ddod dyma'r cyhoeddiad yn cael ei wneud na fyddai trên Llundain yn cychwyn o Firmingham New Street, ond yn hytrach y buasai'n dechrau o Firmingham Internatioanl. Felly byddai'n rhaid inni fynd i fan'ny ar drên lleol. Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen i'r peth o gwbl, gan gofio beth yw safon y trenau lleol sy'n gwasanaethu Aberystwyth. Ond y syndod a'r rhyfeddod yw bod trenau lleol Birmingham yn llawer mwy cyfforddus a deniadol na dim yr ydym wedi'i weld ar y lein i Aberystwyth ers blynyddoedd os nad erioed!

O Firmingham International roedd y daith i Lundain yn iawn. Ond roeddwn i wedi newid tair gwaith ar siwrnai yr oeddwn 'nhw' wedi addo taw dim ond unwaith y buasai'n rhaid newid!

Tagiau Technorati: | | .