Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-14

Gwylanod a sbwriel

Gwylan, AberystwythDwi ddim yn beio'r wylan fach 'ma, ond roedd rhai o'i brodyr a chwiorydd wedi bod mas yn gynnar heddiw yn fandaleiddio pob sach ddu sbwriel allen nhw eu gweld. Roedd Stryd y Castell yn un môr o hen duniau, bagiau plastig, plicion, poteli plastig, &c. Wrth gwrs, nid ar y gwylanod oedd y bai mewn gwirionedd ond y rhai oedd wedi gosod eu sachau mas yn gynnar - neithiwr siŷr o fod. Mae angen rhoi rhywfaint o'r bai ar Gyngor Ceredigion hefyd - pam lai? - am beidio ag ystyried sut i ddelio â phroblemau fel hyn; biniau i bawb, efallai? Roedd y lle yn ofnadwy. Dwi ddim am swnio fel gyrrwr tacsi, ond mae'r peth wedi fy nghynhyrfu'n lân.

Rhagor o wybodaeth am wylanod mewn trefi.