Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-02

Gŵyl y gweithwyr!

Efallai ei bod yn ŵyl y gweithwyr, ond heddiw roedd actifistiaid gwleidyddol Ceredigion yn dal i fod yn llafurio yn y maes. Codi'n fore er mwyn mynd i helpu gyda'r stondin ar y stryd tu fas i Lunn Poly erbyn 10.30am. Mynd yn ddigon cynnar i gael brecwast yn yr Upper Limit Cafê a gweld rhai o'r Liberaliaid yn llwytho cist car â llythyron gan yrru i ffwrdd er mwyn gadael y stryd yn wag i ni ffyddloniaid Plaid Cymru.

Daeth torf go dda ynghyd, felly dyma fi'n ymadael ac yn mynd yn ôl am y swyddfa i wneud rhyw bethau bach oedd angen i'w gwneud cyn mynd i ginio gyda DJP a DML yn y Caban. Treuliais rhyw ddwy awr yn y prynhawn yn ceisio rhoi trefn ar fy lluniau ac fy mlog. Cyn dychwelyd i'r swyddfa i wneud ychydig o waith eto.

Roedd hi'n 8.00pm arna i yn galw i weld GC, IBJ a'r plant cyn cyrraedd yn ôl i'r fflat erbyn Pawb a'i farn am 9.00pm - Elfyn Llwyd, Betty Williams, O. J. Williams a Juliana Hughes, ac yna gwely!

Gobethio codi'n gynnar yfory i wneud ychydig waith cyn mynd i'r gwaith ei hun!