Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-16

Dal i ymladd

Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf ar y BBC dyw Peter Law, AC Blaenau Gwent, heb roi heibio yn llwyr ei fwriad i sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiad cyffredinol. Wythnos yn ôl yr oedd hi'n edrych yn anhebygol iawn y byddai'n medru sefyll oherwydd ei fod wedi gorfod cael llawdriniaeth frys oherwydd darganfod tiwmor ar ei ymennydd. Ond mae'n dweud ei fod yn teimo'n llawer gwell ac yn ystyried sefyll unwaith eto. Dwi'n gwybod fod cymaint o nyddu newyddion o gwmpas fel nad oes posib credu popeth, ond mae'r ffaith ei fod yn fodlon nyddu yn dangos fod y dyhead yno, 'ta beth. Mae wedi cadarnhau ei fod wedi gadael y Blaid Lafur, ac felly yn dechnegol mae'r Blaid Lafur wedi colli ei mwynafrif yn y Cynulliad Cenedlaethol a gallai Rhodri Morgan fod yn chwilio am bartneriaid mewn llywodraeth cyn bo hir. Mae'n amlwg fod Peter Law yn dipyn o ymladdwr ar sawl ffrynt.